Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (43)v2 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Cartrefi mewn Parciau (Peter Black) (60 munud)
NDM4879 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Peter Black gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_010.htm |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4905 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu "y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau" a rhoi yn ei le "bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth"
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘Pedwerydd Cynulliad’ rhoi ‘oni bai fod rheswm clinigol cadarn a di-gwestiwn dros wneud hynny’
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys.
|
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4906 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu ‘y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl hynny sy’n cael cymorth lles’.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:
‘ac yn credu mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy helpu pobl yn ôl i waith’.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod bod heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn creu rhwystrau mwy byth i’r rheini sy’n dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau a chael gwaith.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl fer a ohiriwyd ers 25 Ionawr 2012 (30 munud)
NDM4898 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
All Cymru Dalu ei Ffordd ei Hun? |
8. Dadl Fer (30 munud)
NDM4904 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):
Treth ar Werth Tir yng Nghymru? |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012